Cerrigydrudion
Cerrigydrudion oedd un o’r prif arosfannau yn y 19eg ganrif ar hyd campwaith peirianyddol Telford, y ffordd a adeiladodd ar draws canolbarth Cymru, sef yr A5 heddiw. Mae’r pentref yn gartref i eglwys hynafol Santes Fair. Credir bod yr eglwys hon wedi’i chodi yn 440 OC, ceir hefyd ychydig o elusendai, tafarn groesawgar a dewis o dri chaffi – Caffi Ty Tan Llan, The Dragonfly Cafe a Chaffi ac Adloniant Maelor – y lleoliadau delfrydol i aros am baned o de a theisen gri ar y ffordd i Llyn Brenig a Llyn Alwen sydd gerllaw, gyda’u cyfleusterau chwaraeon dŵr, cerdded a beicio mynydd. Mae Llyn Tegid a’r Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol gerllaw hefyd.
Mae’r ardal yn llawn chwedlau a straeon rhyfedd. Y stori fwyaf adnabyddus yw stori’r Diafol yn Eglwys Cerrigydrudion - a ddigwyddodd yn eglwys y Santes Fair Magdalen, yn ôl y sôn. Dywed yr hanes bod y diafol yn byw yn yr eglwys leol ac yn brawychu’r pentrefwyr nes y cafodd y diafol ei dwyllo i adael yr eglwys gan ferch ifanc ddewr, Eira Wyn. Cafodd y diafol ei lusgo o’r pentref gan ddau ychen mawr ar draws bryniau Hiraethog a’i gludo i’r llyn gerllaw, a elwir yn Llyn y ddau ych, lle bu i’r diafol a’r ddau ych foddi. Bu ymdrechion yr ychen i lusgo’r diafol ymaith mor ffyrnig, dywedir bod olion eu carnau wedi’u gadael ar ôl yn y creigiau.
Ceir tystiolaeth o dreflannau dynol o amgylch Cerrigydrudion sy’n dyddio o 6000 CC. Mae Llwybr Archeolegol Brenig yn rhoi gwybodaeth bellach am y treflannau hynafol yn yr ardal. Mae gwybodaeth ar gael i ymwelwyr yn eglwys y pentref, lle mae canolbwynt hanes.
Uchafbwyntiau
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Dan 20 oed - Cymru v Lloegr ym Mae Colwyn
Bydd talent rygbi gorau hemisffer y gogledd yn cael ei arddangos eto eleni yn...
Coedwig Clocaenog
Mae Coedwig Clocaenog yng nghanol Mynydd Hiraethog ac mae’n ardal 6000 hectar (15000...
Ecstrafagansa Fictoraidd Llandudno
Gyda ffair stryd Fictoraidd, ffeiriau pleser hen ffasiwn, stondinau hwyl, peiriannau...