To provide you with the best experience on this website, cookies are used. By using the site it's assumed that you're happy with our use of cookies. However, you can change your cookie settings at any time. More info on cookies.
Allow cookies

Conwy Sites

View in English

EN

View in Welsh

CY

Mae Mynydd Hiraethog

Mae Mynydd Hiraethog

Gweld y Llyn Brenig a Chronfa Ddŵr Alwen

Llyn Alwen

Lleoliad bendigedig ar gyfer cerdded, beicio mynydd, pysgota neu ymlacio a mwynhau’r golygfeydd godidog, mae Alwen yn gronfa ddwr 5 cilomedr o hyd a adeiladwyd ar ddechrau’r 20fed ganrif ac sydd wedi’i lleoli ger Canolfan Ymwelwyr Llyn BrenigMae’r gronfa ddwr yn cyflenwi dwr i gartrefi ar draws gogledd ddwyrain Cymru, ac mae’n cynhyrchu tua 5 miliwn galwyn o ddwr y dydd, ond yn bwysicach i’r ymwelwyr, mae’n ganolfan gweithgareddau hamdden sydd â rhwydwaith eang o lwybrau beicio a cherdded.

Mae Llwybr Alwen, a agorwyd yn 2006, yn mynd o amgylch Llyn Alwen, gyda’i choedwig a mynydd-dir grugiog, a cheir llu o lwybrau coedwig a llwybrau ar hyd y glannau ac i fyny at rostir Mynydd Hiraethog, sy’n denu cerddwyr, beicwyr mynydd a marchogion ceffylau  i archwilio’r ardal hardd hon.  Mae Llyn Alwen hefyd yn lleoliad poblogaidd ar gyfer pysgota – gallwch brynu trwyddedau pysgota o’r Ganolfan Ymwelwyr ger Llyn Brenig.

Ceir golygfeydd godidog o amrywiol o amgylch y gronfa ddwr gyda thirluniau trawiadol o’r mannau uchel ar draws y rhostiroedd.  Mae’n gartref i’r  rugiar du prin, y glöyn gweundir mawr a’r wiwer goch, a llawer llawer mwy o’r bywyd gwyllt y gallech ei weld ar hyd y glannau.

Mae chwe phanel gyda darluniadau ar hyd Llwybr Alwen yn darparu gwybodaeth bellach ar y bywyd gwyllt, y diwylliant a’r chwedlau gwerin sy’n gysylltiedig â’r ardal, yn cynnwys hanes ‘Y Fuwch Frech’ - buwch frech gwyn a phinc oedd â chyflenwad diddiwedd o laeth, hyd nes i’r wrach ddrwg ei godro i mewn i ridyll nes ei bod yn sych!  Arferai’r bardd lleol, Taliesin Hiraethog fyw yn yr ardal, a gellir gweld gweddillion ei gartref ar lannau’r gronfa ddwr.

Uchafbwyntiau

Llwybr Gwytnwch Eryri, Llanrwst

Llwybr Gwytnwch Eryri, Llanrwst

Ychwanegu Llwybr Gwytnwch Eryri, Llanrwst i'ch Taith

Croeso i Lwybr Gwytnwch newydd sbon Eryri - rhan o Benwythnos Antur Gŵyl Eryri yn...

Her Hiraethog

Her Hiraethog

Ychwanegu Her Hiraethog i'ch Taith

Allech chi gwblhau Her Hiraethog

Llyn Alwen 11.5k

Llyn Alwen 11.5k

Ychwanegu Llyn Alwen 11.5k i'ch Taith

Bydd ras Llyn Alwen yn cychwyn o faes parcio Canolfan Ymwelwyr Alwen wrth ymyl Llyn...

Country Cooks Ty Nant, Ty Nant, Corwen

Country Cooks

Ychwanegu Country Cooks i'ch Taith

Yn ogystal â mwynhau brecwast a chinio cartref o gynnyrch lleol ac yn cynnwys salad...

Aros

Math:
Ardal:
Allweddair:

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Digwyddiadau

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad

Bwyta

Math:
Ardal:
Allweddair:

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Fy Rhestr Fer

Croeso i'r Cynlluniwr Teithiau. Defnyddiwch yr offer hwn i greu eich taith eich hun neu ddewis o ystod cyffrous o deithiau sydd wedi'u dewis yn ofalus.

I greu eich Taith eich hun, cliciwch Add to Excursion i ychwanegu eitem i'ch basged Teithiau.

Get ready for your visit to Hiraethog...

Download Our Guide

Plan your trip here