To provide you with the best experience on this website, cookies are used. By using the site it's assumed that you're happy with our use of cookies. However, you can change your cookie settings at any time. More info on cookies.
Allow cookies

Conwy Sites

View in English

EN

View in Welsh

CY

Lleoedd i Ymweld yn Hiraethog

Lleoedd i Ymweld yn Hiraethog

Llyn Brenig

Hanes Hiraethog

Mae gan dirlun a setliadau hynafol Mynydd Hiraethog hanes diddorol a chyfoethog sy’n ymestyn dros filoedd o flynyddoedd.  Ar yr ymddangosiad cyntaf, gall y tirlun ymddangos ardal nad yw dynion wedi newid dim arni – neu, fel y disgrifiodd Thomas Roscoe yr ardal unwaith ...

“Moors stretching along in almost interminable tracts with scarcely a tree to offer obstruction to the winds of heaven ...”.

Ond os edrychwch yn agosach, mae’r tirlun yn dechrau dangos dirgelion ei hen hanes a’i orffennol mwy diweddar.

Bu pobl yn byw ar y bryniau gwyllt a gwag heb fawr o gysgod naturiol ers y cyfnod cynhanes -   dangosodd gwaith tyllu helaeth pan adeiladwyd Llyn Brenig yn y 1970au fodolaeth gwersyll o Oes y Cerrig a charneddi, cofebion a beddau o’r Oes Efydd.  Gallwch ymchwilio’r holl safleoedd hyn drwy ymweld â’r Llwybr Archeolegol, sydd ar ochr ogleddol Llyn Brenig.

Am y rhan fwyaf o’i gorffennol, bu’r ardal yn ardal ffermio tir uchel traddodiadol, a cheir llawer o dystiolaeth o batrwm ffermio haf a gaeaf yma, sy’n draddodiadol ar dir uchel a dyma oedd y patrwm arferol yn y cyfnod canoloesol.

Ond daeth y prif newidiadau a luniodd y tirlun a welwn heddiw ers diwedd y Cyfnod Fictoraidd - gyda phlannu Coedwig Clocaenog ac adeiladu dwy gronfa fawr – Llyn Brenig a Llyn Alwen.

Heddiw, mae Hiraethog fodern yn enghraifft o ymagweddau’r gorffennol a chyfoes at reoli dwr a thir, wrth gynnal harddwch y tirlun gwyllt hwn nad yw wedi newid llawer, sy’n ei wneud yn lleoliad unigryw ac atyniadol i ymwelwyr.

Uchafbwyntiau

Venue Cymru

Peter Pan - Yr antur pantomeim teuluol herfeiddiol yn Venue Cymru

Ychwanegu Peter Pan - Yr antur pantomeim teuluol herfeiddiol yn Venue Cymru i'ch Taith

Bydd y cynhyrchiad disglair yn dod yn fyw gyda digonedd o gomedi, setiau trawiadol,...

Country Cooks Ty Nant, Ty Nant, Corwen

Country Cooks

Ychwanegu Country Cooks i'ch Taith

Yn ogystal â mwynhau brecwast a chinio cartref o gynnyrch lleol ac yn cynnwys salad...

Fishing at Llyn Aled

Pysgota yn Llyn Aled

Ychwanegu Pysgota yn Llyn Aled i'ch Taith

Mae Llyn Aled yng nghanol rhostiroedd uchel Hiraethog. Mae’r safle anial, ond hyfryd...

The Hiraethog Way, Conwy

Llwybr Hiraethog

Ychwanegu Llwybr Hiraethog  i'ch Taith

Mae’r llwybr diddorol a golygfaol hwn yn cysylltu pentrefi Mynydd Hiraethog, sef...

Aros

Math:
Ardal:
Allweddair:

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Digwyddiadau

Math:
Ardal:
Allweddair:
Dyddiad

Bwyta

Math:
Ardal:
Allweddair:

Pethau i'w Gwneud

Math:
Ardal:
Allweddair:

Fy Rhestr Fer

Croeso i'r Cynlluniwr Teithiau. Defnyddiwch yr offer hwn i greu eich taith eich hun neu ddewis o ystod cyffrous o deithiau sydd wedi'u dewis yn ofalus.

I greu eich Taith eich hun, cliciwch Add to Excursion i ychwanegu eitem i'ch basged Teithiau.

Get ready for your visit to Hiraethog...

Download Our Guide

Plan your trip here