Beicio yng Ngogledd Cymru
Mae cefn gwlad Mynydd Hiraethog yn lleoliad delfrydol i’w archwilio ar ddwy olwyn, ac mae’r ardal yn datblygu enw da fel un o’r cyrchfannau beicio gorau yng Nghymru. Mae digon ar gael at ddant beicwyr o ddifrif a beicwyr hamddenol.
Mae’r lonydd a’r ffyrdd tawel yn croesi’r bryniau, lle nad oes traffig trwm, sy’n ei gwneud yn bleser i feicio ar y ffyrdd. Mae dewis gwych o lwybrau beicio mynydd cyffrous a heriol ar gael, yn cynnwys y rhai yn Foel Gasnach ac o amgylch Llyn Brenig i ddechrau, sy’n dewis cyfleoedd di-rif i’r rhai sy’n mwynhau cyffro. Mae llwybrau seiclo gydag arwyddion, megis Llwybr Brenig, Bod Petryal a Llwybr Alwen yn golygu y gall y teulu cyfan fwynhau cefn gwlad mewn diogelwch.
Mae yna ddigon o lwybrau ar gyfer pob gallu. I gael manylion llawn beicio yn Hiraethog, edrychwch drwy ein rhestrau neu fel arall ewch i wefan Beicio Conwy lle bydd popeth sydd ei angen arnoch i fwynhau gwyliau beicio yn yr ardal.
Uchafbwyntiau
The Crown Inn
Mae hwn yn Dafarn Porthmyn Cymreig hanesyddol, sy’n swatio wrth ymyl pentref cysglyd...
Ras Antur Quest Adventure, Betws-y-Coed
Ymgymerwch â siwrnai heriol a byddwch yn rhan o Ras Antur Quest Adventure...